Fe gychwynnodd gyda Nimrah. Wedi ei hysbrydoli gan ei hathro a'i hannog gan ei rhieni fe ysgrifennodd ‘The Sea Monster' yn chwech oed. Fel rhodd fe'i cyhoeddwyd ar y we ac er nad oedd yn gwybod hynny ar y pryd, fe ddaeth hi'n awdur cyntaf Children's Creative.

Nesaf roedd y gred bod ‘pob plentyn yn awdur', neges y mae Antony Lishak wedi ei drosglwyddo i dros 1000 o ysgolion cynradd.

Datblygwyd Children's Creative i droi'r gred honno yn ffaith. Mae'n wefan newydd flaengar hunan gyhoeddi i blant. Gan ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf, mae'n darparu cynnyrch cyffrous a fydd yn creu brwdfrydedd yn yr ysgrifennwyr mwyaf cyndyn ac yn ysbrydoli'r rhai mwyaf galluog.

Mae Children's Creative yn rhoi cyfle i blant greu llyfrau ar-lein sy'n ymddwyn fel llyfrau gwirioneddol, cymhelliad gwirioneddol i blant ysgrifennu.

Mae'r dechnoleg flaengar troi tudalennau sydd wedi ei greu yn arbennig ar gyfer y safle yn galluogi plant i deimlo'r wefr o fod yn awdur gwirioneddol.

Mae Children's Creative hefyd yn cynnig ffyrdd i athrawon greu adnoddau ysgogol i'w defnyddio wrth baratoi gwersi. Boed yn llyfr sy'n barod i'w daflunio ar y bwrdd gwyn neu gyfuniad o ddelweddau sy'n barod i'r disgyblion eu hagor a'u lawrlwytho yn y dosbarth, bydd athrawon yn cael y dewis o baratoi eu gwersi yn rhywle lle gallant gael mynediad i'r rhyngrwyd.

Mae Children's Creative yn cynnwys tîm o addysgwyr eithriadol, awduron a phobl fusnes dan arweiniad:



Wedi mwy nag 20 mlynedd fel athro ysgol gynradd, penderfynodd gyfnewid cwmni ystafell lawn o blant am ei gyfrifiadur a llond tebot o goffi. Am flynyddoedd roedd wedi bod yn dysgu yn ystod y dydd ac ysgrifennu yn y nos ac, wrth i'w 40 ben-blwydd agosáu, fe feddyliodd ei bod hi'n hen bryd iddo adael yr ysgol!

Yn eironig iawn, mae'n awr yn treulio bron cymaint o ddyddiau mewn ysgolion ac yr oedd fel athro. Cyhoeddodd Antony 45 llyfr i blant o bob oed ac fel awdur, mae'n dal i ddod o hyd i amser i ymweld â dros 150 ysgol y flwyddyn. Mae ganddo hefyd brofiad eang o ddefnyddio'r rhyngrwyd i annog plant i ysgrifennu, ac yntau wedi sefydlu'r wefan boblogaidd creativewriting4kids.com ym 1999.



A hithau'n dod o gefndir dysgu, symudodd Fozia i'r sector masnachol a bu'n rhedeg ei chwmni dylunio ar y we ei hun am flynyddoedd, gan ennill nifer o brosiectau amlwg oedd yn cynnwys gwaith yn ymwneud â ffilmiau Hollywood. Wedi eu harwain gan ei gweledigaeth, ei thîm o ddatblygwyr fu'r grym tu ôl i'r dechnoleg sy'n gyrru Children's Creative. Ei phlant hi oedd awduron cyntaf un Children's Creative; eu brwdfrydedd nhw wnaeth ei darbwyllo sut y gallai manteision y dechnoleg hon fod yn sail i adnodd ysgol gwerthfawr a fyddai'n helpu athrawon i ysbrydoli eu plant i'w gweld eu hunain fel awduron.

Mae gan Children's Creative arbenigwyr technegol i'w cefnogi sydd ag enw da rhyngwladol yn y byd masnachol, i ddarparu cynnyrch neilltuol a dibynadwy.

Mae Children's Creative yn gwmni preifat gyda swyddfeydd yn Hull, DU