Gwefan i chi gyhoeddi eich hun yw Children's Creative sy'n ceisio ennyn brwdfrydedd yn yr ysgrifennwr mwyaf cyndyn. Mae'n adnodd ysgogol grymus yn y dosbarth sy'n golygu bod unrhyw blentyn o fewn ychydig gliciau ar lygoden oddi wrth greu llyfrau gwirioneddol gyda thudalennau sy'n troi ar-lein a gallant brofi'r wefr o ddod yn awdur gwirioneddol - gan roi cymhelliad gwirioneddol iddynt fod eisiau ysgrifennu.

Mae Children's Creative yn adnodd ar y we, sy'n golygu nad oes raid i chi lwytho dim byd - gall weithio ar unrhyw gyfrifiadur sy'n medru gweithredu adobe flash gyda chyswllt â'r rhyngrwyd. Defnyddiwyd y safle gan lu o blant ac athrawon ac mae wedi esblygu i fod mor hawdd â phosibl i ddod i arfer ei ddefnyddio. Mae wedi ei ddylunio i apelio at ystod mor eang â phosibl o ran gallu. Oherwydd ei fod mor hawdd i'w ddefnyddio mae'n golygu bod plant llai galluog yn medru cael y wefr o weld eu gwaith wedi ei gyhoeddi mewn llyfr GWIRIONEDDOL ac mae'r disgyblion mwy galluog yn medru defnyddio'r un dechnoleg i weithio ar eu lefel hwy.

Mae'r safle yn rhoi'r cyfle i blant greu storïau, y gellir eu hanfon at eu hathro i gael eu cymeradwyo a'u cyhoeddi yn syth fel llyfr deinamig gyda thudalennau sy'n troi i'r plentyn ei ddarllen, ei rannu a'i fwynhau. Mae'n gyffrous ac yn ysgogi'r plentyn. Gall y plant ddefnyddio'r offer sy'n rhan o'r safle i greu eu darluniau eu hunain, yn ogystal â llwytho a chynnal llyfrgell o'u delweddau eu hunain, y gellir eu mewnosod yn rhwydd yn eu storïau. Yn allweddol, mae popeth y mae'r plentyn yn ei wneud yn cael ei oruchwylio gan ei athro mewn ffordd sy'n hollol ddi-boen a syml i'w defnyddio. Mwy

Mae'r safle yn cynnig nifer o nodweddion eraill sy'n cefnogi addysgu ac yn annog creadigrwydd, wedi eu cysylltu â'r Cwricwlwm Cenedlaethol.

Beth arall mae Children's Creative yn ei gynnig?

Y Llyfrgell Ysgol Rhithiol a'r Llyfrgell Cwricwlwm Rhithiol. Mwy

Arddangosfeydd ysgol rhithiol.Mwy

… a llawer llawer mwy; mae gennym becynnau celf a llunwyr cymeriadau, y cyfan wedi eu cysylltu â thema ganolog – creadigrwydd wrth ysgrifennu.

Gan fod Children's Creative yn adnodd ar y we mae'n wirioneddol yn dod â'r cartref a'r ysgol at ei gilydd trwy gael rhieni i gymryd rhan yn addysg eu plant. Gan ddefnyddio eu henw unigryw i gyflwyno eu hunain, gall plant barhau gwaith a gychwynnwyd yn yr ysgol neu ysgrifennu eu llyfrau eu hunain a'u cyflwyno i'w hathro eu cymeradwyo o'u cartref ar unrhyw adeg. Mae'r safle yn annog cyfathrebu rhwng athrawon a'u disgyblion trwy gynnig cyfleuster sy'n rhoi'r cyfle i blant gysylltu negeseuon wrth y gwaith y maent yn ei gyflwyno i'w gymeradwyo, gan roi cyfle i athrawon hefyd roi sylwadau wrth y gwaith, os yw'n cael ei gymeradwyo i'w gyhoeddi neu ei ddychwelyd i'r plentyn i weithio mwy arno.

Yn bwysicaf oll, mae llawer iawn o ddiogelwch yn rhan o'r safle. Nid yn unig mae'n rhaid i'r holl waith gael ei gymeradwyo cyn iddo gael ei gyhoeddi, ond mae athrawon hefyd yn medru gweld pob delwedd y mae'r plentyn wedi ei lwytho ar eu hardal o'r safle. Mae Children's Creative yn sylweddoli pa mor bwysig yw darparu safle diogel i blant. Rydym yn cymryd camau trylwyr iawn i warchod data a phreifatrwydd.

Y gost yw £3 am bob disgybl y flwyddyn am y 200 cyntaf o blant a £1 am bob plentyn ychwanegol.

Nid oes unrhyw gynnyrch fel hyn ar y farchnad – bydd penderfynu bod yn rhan o'r wefan hon yn awr yn golygu y byddwch yn rhan o ddechrau ffenomenon addysgol newydd.

Wedi i'r athro ei gymeradwyo, mae gwaith a gynhyrchir gan awduron Children's Creative naill ai'n cael ei arddangos yn llyfrgell bersonol y plentyn, llyfrgell yr ysgol neu ardal llyfrgell gyhoeddus. Mae silffoedd llyfrau “rhithiol” y gellir eu chwilio sydd wedi eu trefnu gan ddefnyddio'r system Ysgol Dewey ac wedi eu dylunio i deimlo fel llyfrgell wirioneddol ar yr adrannau hyn o'r safle. Dros amser bydd y silffoedd animeiddiedig hyn yn tyfu yn adnodd ysgol gwerthfawr gan gynnig cofnod o ddatblygiad pob plentyn ac yn gasgliad fydd yn ehangu yn barhaus a fydd yn dweud stori taith y plentyn fel awdur.

Mae Children's Creative yn offeryn delfrydol i athrawon ei ddefnyddio wrth baratoi deunyddiau gwersi ar draws y cwricwlwm y gall y dosbarth gael mynediad atynt yn rhwydd trwy'r safle. Hefyd gall banciau adnoddau penodol gael eu paratoi gan athrawon fel eu bod ar gael i ddisgyblion i'w lawrlwytho. Yr hyn sy'n fwy cyffrous yw y gall yr adnoddau hyn fod ar gael yn y llyfrgell gyhoeddus i gydweithwyr ac athrawon o ysgolion eraill eu rhannu, a gellir cael mynediad rhwydd atynt a'u harddangos ar fwrdd gwyn y dosbarth. Yn ei hanfod, mae Children's Creative yn adeiladu llyfrgell gynyddol o adnoddau sydd wedi eu profi gan athrawon a sicrhau ei fod ar gael i gyd- addysgwyr i'w ddefnyddio.